Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 27 Medi 2018
Amser:
09.04 -
13.07
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5162
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Jenny Rathbone AC Bethan Sayed AC David Melding AC |
Tystion: |
David Hancock, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Kevin Roberts, North Wales Fire and Rescue Service Christian Hadfield, South Wales Fire and Rescue Service Owen Jayne, South Wales Fire and Rescue Service Nigel Glen, Association of Residential Managing Agents Jason Clarke, Warwick Estates Rachel Dobson, Mainstay Group Limited David Clark, Mainstay Group Limited Julie Griffiths, Mainstay Group Limited Cassandra Zanelli, Private Residents Association Jim McKirdle, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Graham Bond, Cyngor Caerdydd Dave Holland, Cardiff and the Vale of Glamorgan |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mark Isherwood AC, a bu David Melding AC yn dirprwyo. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Jack Sargeant AC, Siân Gwenllian AC a Jayne Bryant AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· David Hancock, rheolwr grŵp, pennaeth diogelwch tân busnesau, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
· Kevin Roberts, uwch-reolwr diogelwch tân, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
· Christian Hadfield, rheolwr grŵp – Adran Gweithrediadau, Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
· Owen Jayne, rheolwr grŵp, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Nigel Glen, prif swyddog gweithredol, y Gymdeithas Asiantau Rheoli Preswyl
· Jason Clarke, pennaeth rheoli risg, Warwick Estates
· Rachel Dobson, pennaeth iechyd a diogelwch, Mainstay Group Limited
· Julie Griffiths, rheolwr eiddo ar gyfer eiddo a reolir yng Nghymru, Mainstay Group Limited
· David Clark, Cadeirydd, Mainstay Group Limited
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Cassandra Zanelli, ymgynghorydd mygedol i'r Ffederasiwn Cymdeithasau Preswylwyr Preifat
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Jim McKirdle, swyddog polisi tai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
· Graham Bond, rheolwr rheoli adeiladau dros dro, Cynllunio, Trafnidiaeth a’r Amgylchedd, Cyngor Caerdydd
· Dave Holland, pennaeth gwasanaethau rheoliadol a rennir, Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, a Bro Morgannwg
5.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am sut y mae'r sefyllfa ariannu mewn perthynas â swyddogaethau rheoleiddio awdurdodau lleol wedi newid dros yr ugain mlynedd diwethaf.
6.1.a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig gan CRM.
6.2.a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig gan y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi.
6.3.a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig gan RICS.
7.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3, 4 a 5.
9.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a gafwyd gan y Llywydd a chytunodd i gynnal ymchwiliad i hawliau pleidleisio i garcharorion.